Ysgrifau

Gwahoddwn ysgrifennwyr i yrru eitemau o ddiddorded i dderwyddon a Phaganiaid, neu eitemau yn datgan hanes Cymru a'r Cymry. Ddylie'r ysgrifeu for o ddiddorded i'r thraddodiad Dderwyddig (Derwyddig: I ddynodi ymarferiad Derwyddiaeth Baganaidd, nid yw'r gair yma iw weld yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru) a fynegi chalon ac ysbrydolaeth Cymru. Gall eich ysgrifeu fod yn fyr neu hir. Gyrrwch eich ysgrifeu drwy e.bost i: y Cydgysylltwr Cymraeg.

 

Yr Awen

gan Kris Hughes
y Cydgysylltwr Cymraeg

Awen, gair bychan ddinod; sy'n disgyn yn hawdd drwy'r gwefysau, gair sy'n golygu dim i lawer or Cymry, hebalw ei fod yn enw ar eneth, enw weddol phoblogaidd erbyn hyn. Gair a fynegi'r derwyddon yn yr Eisteddfod pob hyn a hyn.

Ond beth yw Awen? Beth yw ei ystyr? Yn hanesyddol fe allwn son am Cherridwen a'i phair, ar hylif hydol a gymerodd Gwion Bach yn ddamweiniol, ac ymalen drwy farddoniaeth a straeon Taliesin; a llawer mwy o chwedlau hanesyddol y Cymry. Ond ar ddiwedd y diwrnod, nid oes eglurhad or Awen ar gael yn yr hen straeon.

Yn wirioneddol dim ond mynegiant yr Awen all ei wir fynegi, ac wedyn all olygu dim i rhywyn, fel engraifft, sy'n gwrando ar fardd neu ganwr yn datgan eu Hawen. Nid yw'n hawdd danfon gwir ystyr yr Awen gan ei fod yn cyffwrdd ni'n personol ac yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb fel unigolion. Ond dyna yw ei nature ai gymeriad. Y mae'r Awen ym mhopeth, or seren bella, i gan yr adar yn yr hen goeden dderw yng ngwaelod yr ardd, i'r cynrhon hylla ar gorff hen gwningen ger ochr y ffordd, i ynni ddifrifol chorwyntoedd y de, hudnod yn yr ysgrifen yma ar sgrin eich cyfrifiadur.

Mae'r Awen yn symud, am holl amser yn symud; ysbryd, enaid a naws. Y fe yw'r persenoliaeth tu hwnt a drwy'r hanfod, can chreadigaeth. Felly mae ei ddehongliad mor unigryw a phob agwedd unigryw o'r hanfod rhyfeddol yma.

Paham ei ddiffinio? Ni allwn! Nid ymgais iw ddiffinio yw'r ysgrifen fyr hon, allai ddim ond rhannu fy nheimliadau am mherthynas gyda'r Awen, i ddisgrifio ei ystyr i mi yn unig.

Fel plentyn mewn chariad ar coedwigoedd ar lleoedd gwyllt, yr oeddwn o hyd yn ymwybodol o rhywbeth tu hwnt i'r coed a'r afonydd, rhywbeth yn amgant fy ngolwg, o hyd yn teimlo ryw wacter wrth gyrraedd fyng nghoedlan arbennig, gormod o wacter, fel ei fod wedi bod yn llawn eiliadau gynllaw. Fel plentyn tybiwn fy mod i'n ran or hyn o fy nghwmpas, ddim yn rhywbeth y tu allan iddo ac yn wahanol, yr oeddwn yn ran ohono, ac yntau yn ran ohonom i.

Rwy'n cofio'r nifer o Eisteddfodau fel plentyn, ond mae un mewn arbennig yn glir yn fy nghof. Yno yn gwrando ar yr Arch Dderwydd yn son am yr Awen. Or diwrnod honno roeddwn yn gwybod na dyna oedd y teimlad yn y coed! Fod yr hyn a synhwyrais gyda enw; Awen! Agowryd drysau ymwybodol tu hwnt ir deall! Ond ni allwn gwestiynny'r hyn a welais a deimlais dim ond ei ymwasgu fel plentyn ddiniwed, ansawdd mor findlws, a rhywbeth all ei golli mor hawdd wrth dyfy'n oedolyn. Mae'r hen ansawddau plentyndod yn amnewid gyda rhesymeg a doethineb yr oedolion.

Mae wedi cymeryd blynyddoedd i ail ddatblygu'r perthynas sanctaidd ar Awen. Nid oedd rheswm perfformio defodau fel plentyn, dim rheswm ymmuno a chwrsiau neu weithgareddau. Roedd yr Awen yno, a finne hefyd. Fel mor gymaint o blant heddiw gyda derbyniaeth naturiol or hyn tu hwnt i'r deall, nes ir oedolion ei ddyrnu ohonynt. Ar ol pymtheg blynedd rwyf wedi ail ddatblygu ryw gysgod or hen berthynas om mhlentyndod gyda'r Awen, ond 'dwi ofn fod angerddoliaeth y chysylltiad hen wedi ei golli am byth, mae'r perthynas yn wahanol heddiw, yn ryfeddol, ond gwahanol.

Mae'n siomedig fod perthynas sanctaidd gyda'r Awen ddim iw weld ym mywydau rhan fwyaf or Cymry, i feddwl mai yma oedd ei leolbwynt. Dryw weddill y byd 'dwi'n ofni fod angeddoliaeth y gair yn colli pwyslais, ac bron yn disgyn mewn pwysicrwydd i droi'n "Air", heb deimlad tu hwnt iddo, rhywbeth a tebygrwydd i'r ffordd y clywch y Cristnogion yn son am "Yr Ysbryd Glan", dim ond gair di-feddwl yw e'i rhan fwyaf ohonynt.

Yng Nghymru mae geiriau yn llawn Ynni a phwer gyda chysylltiadau emosiynol, fel y gair "Hiraeth" fel engraifft, fe allwn ni gyd deimlo ei ystyr wrth ei ddweud. Mae'r un peth yn wir am Awen. Ddylie dweud y gair yn unig frifo yn ofnadwy, ac ymddeffro fyrdd o emosiynau dwys, a achosi'r enaid i chwerthin, ysgrechian a wylo. Nid yw Awen yn rhywbeth iw ddadansoddi'n ddeallus, mae e' drwyddo ni ac ynnom ni, yn rhywbeth sy'n mynegi ein diwylliant a'n hynafiaid, y poen, llawennydd a ymdrechion ein pobl. Mae'r Awen yn llifo drwy'n gwythiennau ac yn gorwedd yng nghalon phob atom yn ein hanfod ryfeddol. Yr Awen yw'r ysbryd fwyaf sanctaidd yn oll Geltica.

Mewn fyd sy'n llawn ysbrydoliaeth fasnachol, lle welwn fwy a fwy o bobl yn credu y gall rhwsyt prynnu bywyd ysbrydol drwy dalu cannoedd o bunnau am gwrsiau, neu phererindod i wledydd eraill, yn aberthu ein hetifeddiaeth ybrydol a'i gwirionedd a'i adael yn gorwedd mewn anwybodaeth. Dim rhyfedd fod y rhai or brynniau a'r llefydd dirgel yn cadw o'n golwg!

Mae;n hen bryd i ni rhoi goraidd i wario'n wirion i penlinio o flaen ryw "Gwrw" sy'n gwneud ffortiwn bychan or hygoelus, neu talu i alw lawr angylion gan ddefnyddio llysiau organic ac ambell i Grisial!! Mae rhaid stopio a gwrando, dim clywed, on gwrando, i gan a cherddoriaeth yr Awen a'i gofleidio fel fynegiant a chysylltiad ysbrydol sy'n gynhenid i'n chartref, ein tir a'r tylwyth.

Nid oes diddordeb a fi i ddringo ryw hen fynnydd yn Nhibet, neu ymweld a ryw ashram yn India, i wrando ar rhywyn sydd wedi hen ryddhau ei hun o gyfrifoldeb! Mae phopeth 'dwi angen yma, ar Ynys Brydain, mae'r Awen yma o hyd ac yn disgleirio yng nghalonnau mor gymaint ohonom. Mae Celtica yn gyfoedd mewn thraddodiadau ysbrydol a'r Awen yn disgwyl i lenwi chalonnau y bobl.

Rydym ni gyd yn clywed can yr Awen, ond ni rydym i gyd yn gwrando!

Pen Y Tudalen

 

Trysor Llyn Cerrig Bach

gan Kris Hughes
y Cydgysylltwr Cymraeg

1942, dan dywyllwch yr ail ryfel byd, chew blynedd o waed a marwolaeth, ond ar Ynys Mon yng Ngogledd Cymru darganfwyd rhywbeth rhyfeddol. Yn eirionig heb law am y rhyfel y fuasa'r darganfyddiad wedi parhau i orwedd mewn bedd tamp, tywyll gwlyb.

Yr hyn a ddarganfwyd oedd llwyth o drysor yn ymestyn yn ol i oes yr Haearn Geltaidd yn nhyfnder fwdlud Llyn Cerrig Bach.

Fe ddarganfwyd y trysorau yn ddamweiniol yn Ogledd Orllewin yr Ynys, ger safle RAF "Y Fali", un o ganolfannau enwocaf prydain, sy'n hyfforddi cannoedd o beilotau frwydr pob blwyddyn. Yn 1942 yr oedd angen ehangu'r ffyrddredeg i gymhwyso'r caeri hedfen Americannaidd. I ddarparu sail ar gyfer y ffyrddredeg penderfynnwyd defnyddio'r mwd a'r mawn o ors ger ochr y cae awyr. O dan lygaid Mr. William Roberts o Rosneigr fe ddechreuwyd i lanhau'r gors.

Un bore fe suddodd hen lori trwm yn dyfn i'r gors, ac er mwyn ei rhyddhau yr oedd angen chymorth gan dractor o fferm leol iw dynnu'n rhydd o'r gors. Wrth lwc fe ddarganfwyd hen gadwyn ger glannau'r gors a'i ddefnyddio i lusgo'r lori o'i fedd fwdlud.
Fe barhaodd y gadwyn i achub lawer o loriau y diwrnod honno, nes i ryw beirianydd or maes awyr ei weld a sylweddoli fod rhywbeth oi le, ac efallai na dim gadwyn fferm yr oedd hi, on rhywbeth llawer hynnach. Fe gysylltwyd a Sir Cyril Fox o'r Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd i archwilio'r gadwyn ym mhellach. Be diilynni'r oedd y ffaith na dim cadwyn fferm oedd hi o gwbl, ond cadwyn dal carchorion yn ymestyn yn ol ir bell orffenol, ac wedi ei gwneud tua 2,080 o flynyddoedd gynt!

Ar unwaith roedd rhaid rhwystro glanhad y gors a chau yr ardal er mwyn archwiliad archaeolegol ddechrau ar y safle. Fe ddarganfwyd chronfa o dros 150 o eitemau o'r Cyn-Rufeinig, Oes yr Haearn, trysor o oes y chymdeithas Geltaidd! Mewn gwirionedd fe gollwyd mwy na ddarganfwyd gyda channoedd o eitemau wedi ei claddu o dan ffyrddredeg y cae awyr.

Yn sydyn yr oedd Llyn Cerrig Bach yn un o safleoedd ddefodau Oes yr haearn fwyaf phwysig ym Mhrydain. Tybied yn wreiddol na man ysbwriel oedd y Llyn, rhywle i ymadael a ysbwriel y gymuned. Ond fe ddarganfwyd niwed fwriadol ar yr eitemau, ac yn ol Dr. Miranda Green y mae niwed bwriadol yn draddodiad go gyffredin ac yn symboleiddio lladdiad yr eitem or byd hon, ac yn ei wneud yn addas fel offeriwm ir fyd arall.

Darganfwyd lawer o eitemau filwrol ac hefyd rhai wedi iw harddunio'n gymleth, mae rhaid fod y rhain wedi perthyn i bobl a safle uchel yn y gymuned. Darganfwyd crocheni, chadwynnau, tariannau, cleddyfau a llawer mwy o drysorau, rhai yn dangos symbol y "Triskle" ac adar mewn steil y Celtiaid. Dyddi'r eitemau o'r 2ed ganrif c.c hyd at y 50ed ganrif o.c. Un ar ddeg blynedd cyn ymosodiad Seutonius Paulinus yn 61 o.c.

Sir Cyril Fox or amgueddfa genedlaethol fy'n gyfrifol am chofnodi a chatalogi'r arteffatcau, ac i'w symud i Gaerdydd, ac yno y gorweddant hyd heddiw.

yn Cerrig bach, llyn wedi ei drawsffurfio'n ors dyfn dros y canrifoedd. Mae'r llyn wedi ei amgylchynnu a greigiau uchel, yr un fwyaf yn 11eg troedfedd o uchel gyda chopa fflat yn cynnig mantais arbennig i daflu aberthion ir dwr. Y mae tri llyn arall yn yr ardal yma, Llyn Traffwll, Llyn Penrhyn a Llyn Dinam. Yr hon a alwyd yn Llyn Cerrig Bach yr Heddi oedd dwy Gors ers talwm, gors yn cysylltu ar tri Llyn uchod, Gors Cae Ifan a Chors yr Ynys. Mae'n ddiddorol fod yr hen enw "Gors yr Ynys" yn nodi fod ynys rhywle ym mhlith y Gors, rhywbeth a ddarganfwyd i fod yn gywir y ganrif ddwethaf gan ddefnyddio ffotograffiau or awyr. Mae'n wir fod dwr ac yn enwedig ynysoedd yn golygu rhywbeth ysrbydol neu a chysylltiad ar arall fyd i'r hen Geltiaid. A dyma oedd y rheswm i ddefnyddio Llyn Cerrig Bach fel safle ddefod o bwys?

Mae'r greigen ucha, "Craig Y Carnnau" lle feddyliwn y taflwyd yr aberthion yn tueddu i ymddangos ryw gysylltiad phaganaidd drwyr enw i hyn. Efallai yn son am un or hen dduwiau Geltaidd? Heddiw Bryn Tacan (Tactical air navigation) yw'r enw ar "Craig y Carnnau", yr hon yn gorwedd ar dir yr MOD.

Nid oes dim yn digwydd yma heddiw, dim aberthion dim pererindod, mae'n anodd credu fod rhywle mor sanctaidd ir hen bobl yn hollol wag o unrhyw weithgareddau ysbrydol.

Heddiw mae'r ardal o amgylch y llyn yn ardal naturiol arbennig, yn gartref i nifer o anfeiliaid gwyllt a physgod. Ar ddiwrnod braf maen hawdd dychmygu y defodau ar gweithgareddau a dalwyd yma, ar aberthion a sefydlwyd Mon fel brif sedd y Derwyddon.

Ond ble mae'r darganfyddiad? Aberth i ysbrydion a Duwiau Ynys Mon yr oeddynt, eitemau sy'n rhan o'n hanes, yn rhan o'n hetifeddiaeth, wedi ei dwyn or Ynys Sanctaidd a'i symud fel carchorion i Gaerdydd, yn gorwedd dan glo yn nhyfnder yr Amgueddfa Genedlaethol, wedi ei gwahanu o'i cartref gan filltiroedd o dir. Dadl yr Amgueddfa yw ei bod yn bwysig i Gymru oll a ddylient fod yn yr amgueddfa genedlaethol i bawb cael ei gweld. Ond ni ydynt ar ddangos, dim ond dwy eitem sydd yn yr arddangosfa, ble mae'r gweddill? Mae ein trysor wedi ei dwyn o ei cartredd gyfreithlon yma ar ynys sanctaidd y Derwyddon.

Yn Langefni ar Mon sefai Oriel Ynys Mon, adeilad fodern sy'n cartrefu arddangosfa bychan o hanes Ynys Mon, rhywle sy'n ddigon gyfaddas i gartrefu trysor Llyn Cerrig Bach, yn enwedig gyda thipyn o chymorth ariannol. Yn y flwyddyn 2000 gyrwyd tair eitem or Amgueddfa Genedlaethol ar fenthygiad ir Oriel am ddwy fis!

Yn fy marn i nid yw hyn yn dderbyniol. Ynys Mon yw safle bwysicach ym Mhrydain mewn gysylltiad ar Derwyddon, a mae thrysor Llyn Cerrig Bach yn gysylltiad gorfforol a'n gorffenol sanctaidd. Yma yw eu cartref nid Caerdydd!

Nid oes digon yn cael ei wneud i ail gartrefu'r trysor yn ol ar Ynys Mon. Anrhegion ac aberth i'n duwiau ni yw'r trysor, ac mae rhain yn perthyn i ni, yma ar Ynys Mon, rhywbeth sy'n ran hanfodol o'n diwylliant tir a thraddodiadau sanctaidd. Ni'n angen nhw'n ol!

Yn Llyn Cerrig Bach nid oes aur yn sgleinio,
Na Haearn ar haearn drwyr dydd yn taro,
Na dynion, blewog, blin yn bloeddio,
Ond mae ddoe yn fyw o hyd!

(Plant Ysgol y Borth 2003)

Kristoffer Hughes, Alban Hefin 2004

Yr Uchelydd

Dyma blanhigyn sanctaidd y derwyddon fe a disgrifir gan pliny yn ei eitem yn disgrifio defodau yr hen dderwyddon, oes yr haearn. Maen debygol fod defoodau derwyddig yr uchelydd wedi iw gynnal tua amser yr alban arthan.