Dros ganrifoedd o hanes a llen yr hen Gymru, casglwyd filoedd ar filoedd o Drioedd, y
rhain yn mynegi doethineb ac ysbrydoliaeth, barn a cherdd barddonol y Cymru o ddechrau amser. Fe weli'r
amryw o rhain yn weithgareddau awduron enwocaf llenyddiaeth y Cymry, fel Iolo Morgannwg a'i waith
barddonol "Barddas". Hefyd yn y ganrif ddiwethaf ac o law Rachel Bromwich fe gawn "Trioedd
Ynys Prydain" wedi ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Welwn hefyd y Trioedd yn y Myvyrian
Archaeology ac yn "Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain". Er fod gwreiddiau y Trioedd erbyn hyn wedi
eu gorchuddio a'u cuddio dan ganrifoedd o dywyllwch amser, ac mae'n amhosib darganfod eu wir ddechreuad,
mae ei gwirionedd yn ein symyd ni hyd heddiw.
Mae'r Trioedd yn erfynau gwerthfawr yn ysbrydoliaeth Derwyddion modern, ac yn
gweithio'n arbennig mewn myfyrdod ac hefyd mewn defodau. Gall eu defnyddio fel Siant i ychwanegu y meddwl
ymwybodol o'r meddwl isymwybodol ac i ddarganfod hanfodau eraill o fewn y meddwl. Gall eu defnyddio mewn
SwynGan i achosi newdiadau yn y byd gorfforol, neu yn syml; eu mwynhau fel gweithgareddau sy'n unigryw
i'r Cymru a rhan phrydferth dros ben o'n hanes a'n llen.
Mae Hydoliaeth yr hen Drioedd yn addas ac yn berthnasol i ni heddiw yn yr un ar
ugeinfed ganrif, ond ar y llaw arall, mae'n tebyg fod y Cymru wedi troi cefn ac anghofio ein
hetifeddiaeth brodorol pam? Nid oes digon yn cael ei wneud i lusgo'r hen len yn ol allan o dan lygaid yr
haul, i fwy ohonom gael cyfle iw mwynhau, a gwerthfawrogi ein hanes, hanes o bron i ddwy fil a hanner o
flynyddoedd, hanes sydd mewn perygl o ddiflannu o wyneb y ddaear.
Dyma ei'n ymgais ni i gadw'r hen ddoethineb yn fyw ac yn iach! Ymmunwch a ni, ac
ymdrechwch i dderbyn ysbrydoliaeth or hen gerdd, cyn ei fod hi'n rhy hwyr.
Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain:
Trioedd Cerdd