Dilynni'r engreifftiau galwadau i'w ddefnyddio mewn defod i ddathlu er enghraifft symudiad y lleuad, troell y
flwyddyn, new ddefodau dathlu fynediad bywyd, fel geni, priodas, dod o oed neu farwolaeth.
Pwrpas rhan 1 or tudalen hon yw i roi cyfle i ni fel Cymry ac i'r rhai a fyne defnyddio'r iaith fel ran o'i
defodau I weld sgerbwd effeithiol o alwadau a 'all ei defnyddio fel agoriad, bwriad a chau i unrhyw ddefod. Fe ddilynni'r yn nes
ymlaen ragor o engreifftiau i'w fynegi drwy droell y flwyddyn.
Nid yr wyf wedi defnyddio Cymraeg acedemaidd, ond yr iaith a ddefnyddwn pob dydd, iaith ein tir a'r ysbrydion.
Yr wyf i yn bersonnol yn defnyddio y galwadau a ddilynni'r fel ran o'n defodau bersonnol ac hefyd oddi fewn ran o
grwp, neu gell.
Mae iaith, a'i ddefnydd yn allwedd galluog sy'n agor y meddwl a'r isymwybod ac yn ein cusylltu a'r tir, ein
tylwyth, ein hetifeddiaeth a'n cyndadau. Mewn gwironedd mae ein hiaith yn ymestyn ganrifoedd i'r bell gorffennol ac yno, yn nyfnder
ein isymwybodaeth fe glywn ein gyndadau, ei lleisiau, ei doethineb yn ymestyn tuag atom yn y ganrif hon. Fel Cymry rydym yn
anhygoel of ffodus i feddu hetifeddiaeth mor unigryw, mor hydol, mor arbennig. Gadewch i ni ei werthfawrogi unwaith eto.
Ac mewn defod, gyda llais glan a phur a bwriad cryf, ymestynwn ein henaid dros y tir ac yn ol drwy'r niwl a
orchuddiai'r gorffennol ac unwaith eto dod i ddeall Cenedl mor arbennig, ac i werthfawrogi ein hetifeddiaeth, hetifeddiaeth sydd
erbyn hyn wedi ysbrydoli yr holl fyd i symyd yn agosach at nature, ac at natur dyn.
Felly defnyddiwch a mwynhewch.
Y Galwadau Ddechreuol
Y Trioedd Ddechreuol
"Tri pheth y dylai Cymro eu caru o flaen dim, cenedl y Cymry, defodau a moesau y Cymry, ac iaith y Cymry"
Y Weddi Ddechreuol
Aros mae'r mynyddoedd mawr,
Rhuo drostynt mae y gwynt,
Clywir eto gyda'r wawr,
Gan bugeiliaid megys cynt,
Eto tyfa'r llygad dydd,
Ogylch troed y graig a'r bryn,
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddau hyn.
Heddwch:
Wrth dawelu'r meddwl, ymgeisiwch i ddarganfod a fynegi heddwch yn eich meddwl a'ch calon.
Taw fy'n Enaid, Mae Heddwch yma,
Taw fy'n Enaid, Mae Heddwch yma,
Taw fy'n Enaid, Mae Heddwch yma.
Machlud yr haul, codiad y Lloer,
Sibrwd dirgel y tir,
O galon y ddaear i'ng nghalon i,
Dymuna'i Heddwch,
Oddi fewn ac o allan,
Fy'n enaid: A oes Heddwch?
Heddwch! Heddwch! Heddwch!
Gan symud yn gyntaf i'r Dwyrain, wedyn y De, 'Orllewin a'r Gogledd, gan ddweud:
Creaduriaid Ac Ysbrydion Y Dwyrain, Gwynt moethus y Gwanwyn, genedigaeth yr haul, dymunnwn Heddwch i bawb yn y
Dwyrain. A oes Heddwch?
Ateb: "Heddwch!"
Creaduriaid ac Ysbrydion Y De, Gwynt llachar yr Haf, ardal y tan a chynhesrwydd, dymunnwn Heddwch i bawb yn y De. A oes
Heddwch?
Ateb: "Heddwch!"
Creaduriaid ac Ysbrydion Y Gorllewin, Gwynt calonig yr Hydref, ardal y galon, dymunnwn Heddwch i bawb yn y Gorllewin. A oes
Heddwch?
Ateb: "Heddwch!"
Creaduriaid ac Ysbrydion y Gogledd, Gwynt oer y Gaeaf, ardal caledrwydd ac oerni, dymunnwn Heddwch i bawb yn y Gogledd, A oes
Heddwch?
Ateb: "Heddwch!"
Gan symud i ganol y cylch:
Heddwch drwy deyrnas y tir, Heddwch drwy deyrnas yr awyr, Heddwch drwy deyrnas y mor. Heddwch drwy'r holl hanfod, a'r holl
deyrnasu gweledig ac anweledig! A OES HEDDWCH?
Ateb: "Heddwch!"
Galwad Ysbryd Y Tir
Ysbryd, gwarchodwr y tir, y ti or craig, y cerrig man, afonydd a'r lli, y mwd a'r clai. Y ti, ein hetifeddiaeth,
ein calon, ein cyndad, gwranda! Gwarchodwr y tir sanctaidd hon, drwy flodau harddach yr haf, i sgerbwd y dderwen gaeafol, clyw
fy'ng nghri. Derbyna ein presenolded yma yn y cylch sanctaidd hon, ac fel yr hen bobl, unwaith eto fe ddathlwn tir a tylwyth yma o
flaen dy lygaid. Mewn heddwch a drwy ysbryd Awen, derbyna ni. Derbyna ein parch gan adnabod ein parch. Bendith by ysbryd a
gwarchodwr y tir hon.
Galwad Y Cyndadau
Cyndadau, cyndadau, cyndadau.
Cyndad gwaed a threftadaeth, cyndad iaith a thylwyth. Hen bobl y tir, y mor, yr awyr, dihunwch i'ng ngair, clywch fy ngri.
Derbynwch ein parch, ein cariad. Drwy cysylltiad sanctaidd, tafod a thir, ymunnwch a ni y diwrnod hon, dathlwch ei'n hetifeddiaeth,
ein cysylltiad a chi. Cwrdd a ni. Yma, o flaen yr Awen pur, o flaen yr ysbrydion naturiol, yr elfennau, ein calonau, parch a roddwn
i chi ein cyndadau.
Ymunnwch, ymunnwch, ymunnwch! Bendith.
Galwad Yr Elfennau (Gan gynnwys ail alwad y cyndadau)
Gan symud yn gyntaf 'ir Dwyrain, ac yna'r De, Gorllewin a'r Gogledd.
Cyndadau, ysbrydion a chreaduriaid y Dwyrain, Genedigaeth yr Haul, Awyr a gwynt ysgafn Y Gwanwyn, clywch!
Ysbrydoliaeth elfennau'r dwyrain, elfennau'r aer, clywch fy nghri! Gwrandewch ar lais eich tylwyth! Awel esmwyth, storm a chyrwynt
clywch. Derbynnwch ein parch, ymunnwch a ni.
Ymunnwch, Ymunnwch, Ymunnwch.
Cyndadau, ysbrydion a chreaduriaid y De, ardal y Tan, cynhesrwydd, llosg, fflam yr enaid, fflam yr Awen,
gwrandewch! Y chi o'r cread, y chi or dechreuad, clywch fy nghri. Dim ond parch a diolchgarwch a roddwn i chi. Gwrandewch ar lais
eich tylwyth. Derbynnwch ein parch, ymunnwch a ni.
Ymunnwch, ymunnwch, ymunnwch.
Cyndadau, ysbrydion a chreaduriaid y Gorllewin, cartref y galon ar emosiynau, dagrau'r hydref, popty'r ddaear,
bwydle'r tylwyth, clywch fy nghri. Elfen y Dwr, y chi a roddi teimlad i'r hanfod, gwrandewch. Parch a roddwn. Gwrandewch ar lais
eich tylwyth. Ymunnwch a ni.
Ymunnwch, ymunnwch, ymunnwch.
Cyndadau, ysbrydion a chreaduriaid y Gogledd, llais y fam, elfen y ddaear, sefydlogrwydd y tir, ein diogelwch,
cartref holl greaduriaid y ddaear, clywch fy nghri! Mwd a chlai, pridd a llwch, mynyddoedd cadarn, daeargrym ddychrynllud,
gwrandewch ar lais eich tylwyth. Parch a roddwn i chi. Ymunnwch a ni.
Ymunnwch, ymunnwch, ymunnwch.
Ac i orffen gan symud i ganol y cylch.
Holl Ysbrydion, Creaduriad y Mor, y Tir a'r Awyr, mae croeso i chi oll, yma dan lygaid yr haul (Neu'r lleuad). Ymunnwch a ni yn ein
defod, yma i ddathlu…(Enwi'r dathliad). Pob fendith arnoch, pob fendith. Diolchgarwch a pharch a roddwn i chi, ein bywyd,
ein tylwyth. Bendith.
Galwad Awen
Gan ymestyn y freichiau tua'r nef
O'r Cread, Awen.
O'r tywyllwch oll, Awen.
O'r hyn a fy, a'r hyn a ddaw, Awen.
O Annwfn dyfn i Geugant pur…Awen.
Rhwng ni oll, Awen.
Y chi or tir,
Dihunwch yn ni ein Hawen.
Y chi or mor,
Dihunwch yn ni ein Hawen.
Y chi or awyr,
Dihunwch yn ni ein Hawen.
Yr Awen fy',
Yr Awen aeth,
Yr Awen roddwn yn ol i'r daith.
Awen, Awen, Awen.
Galwadau Ychwanegol
I alw ysbrydion Annwfn, neu ei ddefnyddio fel siant i symud yr isymwybod.
Yn Annwfn y dangnefeddus,
Yn Annwfn y digofaint,
Yn Annwfn, is y Byd.
I alw'r phedair elfen fel siant.
Dwr fy ngwaed, daear fy nghorff, aer fy ngwynt a tan fy'n enaid.
Dwr fy ngwaed, daear fy nghorff, aer fy ngwynt a tan fy'n enaid.
Dwr fy ngwaed, daear fy nghorff, aer fy ngwynt, a tan fy'n enaid.
Datgan Y Bwriad
Yma ddylie' fynegi datganiad bwriad y ddefod, fe fydd hwn yn wahanol ac yn dibynnu yn hollol ar natur
y ddefod neu'r ddathliad.
Y Ddefod
Symudwn yn awr at brif gorff y ddefod. Ac unrhyw waith neu fusnes arall y gell neu'r grwp. Ac ar ol
yr Eisteddfod at y cau.
Y Cau
Fel rheol fe fydda'i yn cau'r cyclch ar unwaith, gan ffarwelio'r ysbrydau, y cyndadau, a'r Awen gan
ddefnyddio un ymadawiad. Ac wedyn i al war y rhai a alwa'r elfennau i gau fel unigolion. Ddylie'r cau ddod o'r gallon, o'r enaid,
neu gan ail ddefnyddio eiriau'r alwad ond mewn ffordd ymagawedig.
A dyna ddiwedd arni.