Barddoniaeth
Gwahoddwn Feirdd i yrru eich barddoniaeth er mwyn pleser ac i ysbrydoli y rhai a fy'n darllen ac ymweld ar safle hon. Derbynwn unrhyw darn o farddoniaeth o ddiddorded ir thraddodiad Dderwyddig, byr neu hir. Gyrrwch eich barddoniaeth drwy e.bost i y Cydgysylltwr Cymraeg.
Kristoffer Hughes
Can Yr Awen
Rhwng mor a mynydd, Tir a'r gwagle; Awen. O Annwfn dyfn i Geugant pur, Awen. Can a cherdd yr hanfod, Blas melus Pair a chroth y Dduwies, Awen. Dirgelwch. Addewid einn cartref, Gwirionedd trysor Tywyllwch; Awen. Goleuni. Ysbrydoliaeth. Clywch. Gwrandewch. O Wion Bach i Daliesin, Mae'r Awen ynom oll! Kris Hughes Mehefin 2004 |
Pen Y Tudalen
Siant Yr Awen
Fy'n Awen i, tyrd im nghalon, Hir yw'r aros, Fy'n Awen i, Tyrd im nghalon, Wyt ti'n agos. Ar ba gwmwl ddoi di lawr, A fy di yma cyn y Wawr, Tyrd fy'n Awen, tyrd i lawr O'r nos sy'n ddu.
Kris Hughes Mehefin 2004 |
Pen Y Tudalen
Preiddeu Annwn - Cyfiethiad Fodern
Canmol yr argwlydd, penadur ein gwlad Ei benadwriaeth yn ymestyn dros traethi'r byd Bu cyfarpar carchar gweir yng nghaer sidi'n dda Drwy Fabinogi Phwyll a Phryderi Aeth neb o'i flaen Iddi Y gadwyn trom las/lwyd i ddal y gwas A chyn Preiddeu Annwfn chwerw ei gan A tra parhaw'r dyfarniad fe ganeuwn ein barddas Tri llonaid Prydwen, yr aethom ni iddi Ond am saith, ni ddaw neb o gaer sidi Rwyf yn anrhyd mewn canmol, cerdd a chlywir Yng nghaer phedwarbig, pedair chwyldroad Fy gynair or pair ai lefery Ac anadl naw morwyn yn ei ennyn Neu pair pen Annwfn, pwy ai luniodd? Gwrwm tywyll ar berlau Ni ferwith fywd i lwfryn, nid yw e'n ddynged Clddyf llachar lleawch rhoddwyd iddo Ac yn law lleminawch y gadewid Ac wrth ddrws porth uffern, llusernni'n llosgi A phan aethom ni gyda Arthur, trafferth llachar Ond am saith ni ddaw neb o gaer feddweddw Rwyf yn anrhyd mewn canmol, cerdd a glywai Yng nghaer phedwarbig ynys y ddor gryf Dwr a ffrwd yn gymysg Gwin gloyw eu gwirod o flaen eu llu Tri llonaid Prydwen yr aethom ni ar For Ond am saith ni ddaw neb o gaer rigor Ni haeddiant lawyr len yr arglwydd Tu hwnt i gaer wydyr, ni welysant dewrder Arthur Che fil o ddynion a sef ar y mur Oedd anhawdd ymadrodd a'u gwyladur Tri llonaid Prydwen aeth gyda Arthur Ond am saith ni ddaw neb o gaer goludd Ni obrynaf llafyr y rhai a chengl tarian llaes Ni wybodwnt pwy ddydd a pheri ddydd pwy Pwy awr mewn dydd y ganed Cwy Pwy wnaeth y fe a wnaeth ddim fynd i ddol defwy Ni wybodwnt yr ych crych, bras ei benrwy Saith gein gyswllt ar ei goler A phan aethom ni a Arthur, gofwyo anddwl Ond am saith ni ddaw neb o gaer fanddwy Ni obrynaf dynion bach llaes eu mynnu Ni wybodwnt pry ddydd oedd geniddydd y pennaeth Pa awr yn y dydd a ganed y perchenod Pa anifail a gadwynt, arian yw ei ben Pan aethom ni gyda Arthur, cynnen ofnadwy Ond am saith ni ddaw neb o gaer ochren Myneich yn udo fel cor o gwn Gan gyfarfod yr uwch un, pwy a wyr? A oes un hynt y gwynt ac un dwfr y mor Ac un gwreichionen tan ar dderfysg ffyrnig Myneich ai gilydd fel bleidd Gan gyfarfod yr uwch un, pwy a wyr? Ni wybodwnt phryd mae chanol nos neu'r wawr Neu'r gwynt, a'i hynt, neu phwy ai gynhyrfu Pa le ei ddihuno, pa dir a darrodd Bedd lawer sant a ddihuno canmoliaeth ir un uchaf y phenadur mawr Ni fyddai'n drist, crist a'ng nghadw. |
Pen Y Tudalen
Simon Paul Harley
Mae fy mywyd fel afon
Mae fy mywyd fel afon, weithiau'n llifeirio'n gyflym, Dros greigiau a drwy tir beryglus. Weithiau'n araf ac ystum, lleyrchu'n ddoiglyd o dan yr haul. Pob tro mae fy'n afon yn fyw, yn cyfarfod pob dydd newydd, Fel mae pob afon yn cyfarfod glannau newydd, Yn profiadu ac ymgyfarfod. Fel un mae fy'n afon yn unigrwy, Ond mae afonydd yn gweu dros y tir, Yn llifeirio i fewn ac allan o afonydd eraill. Weithiau mae fy'n afon yn ymmuno ac un arall, I rannu ddefyd, breuddwyd neu lwybr bywyd. Er ei unigrwydd, mae fy'n afon yn ran or tir, Ac fel genedigaeth pob afon, o dyfnder mor bywyd, Wedi ei gludo iw ffynnon yn groth y ddaear, Ac wedyn i lifo dan yr awyr a'i gynhesu gan yr haul. Un dirwnod fe lifai'n ol ir mor, ac o fanno, Fe ddaw afon arall. Ond dirwnod i ddod iw honno, Heddiw mae fy'n afon yn llifo yno fi.
Simon Paul Harley Mehefin 2004 |
Pen Y Tudalen
Gwyn Edwards
Hynafiaid
Ble heno fy hynafiaid? Ar wasgar mewn mynwentydd coll? Mewn beddau di enw? Eu cyrff aeth yn un â'r pridd, Yn rhan o'r ddaear. Eu canu a ddaeth i ben, Eu dawnsio a ballodd, Eu llafurio a aeth heibio Ac ôl eu llafur nid yw'n ddim. Ble heno fy hynafiaid? Pa le mae'r fintai o eneidiau? Yn ynni nad yw'n darfod, Yn sefyll fel tyrfa o’m hol Ac yn ymestyn ymhell, Nes mynd yn un â'r gorwelion. Mae nhw yna yn gwrando. Mae nhw yn dal i freuddweidio a gobeithio A'u gofal sydd gyda mi o hyd.
Ble heno fy hynafiaid? Yn y cof a'r genynnau? Yng nghraidd fy modolaeth? Eu gwaed sy’n dal i lifo yn fy ngwithiennau A'r hen is-ymwybod tragwyddol Sy'n treiddio fel afonydd cuddiedig Trwy bob rhan ohonof Yn cyfeirio fy ngherddediad, Yn llywio fy ngeiriau.
Gwyn Edwards 10 Mawrth, 2006 |
Pen Y Tudalen
Y Sgwarnog
Ym misoedd yr onnen a'r wernen, Pan fydd golau y dydd yn cryfhau, Pan glywir per gân y fwyalchen A bydd natur yn dechrau bywhau, Pryd hynny, ymhell o swn dynion Sgwarnogod ddaw allan liw dydd, Gan ddawnsio ac ymladd yn wirion A rhedeg yn wyllt ac yn rhydd.
Ar feysydd y gwyll a'r unigrwydd Pan gyfyd y lleuad uwchben, Mewn lle nad yw dyn yn gyfarwydd Y sgwarnog a gyfyd ei phen, Gan gyfarch hen dduwies yr wybren A syllu'n hiraethus a hir, Mae'r lloer yn fwy iddi na llusern Sy'n gleuo hen lwybrau y tir.
Hen enaid yw enaid y sgwarnog Sydd yma cyn tarddiad pob ach, Fe grwydrodd ein herwau mynyddog, Mae'n gyfaill i'r dewin a'r wrach, D'wed rhai ei bod yn trawsffurfio, D'wed eraill mai swynwraig yw hi, Dan fantell Melangell mae'n cuddio Rhag dicter yr heliwr a'i gi.
Tu hwnt i'r byd dynol blinderog, Tu hwnt i'n pentrefi bach clyd, Tu allan ar diroedd y sgwarnog, Mae'r ysbryd hynafol o hyd. Hen ysbryd ffrwythlondeb a natur, Sy'n bod cyn 'run rhwyd na 'run dryll, Hen ysbryd y blodau a'r blagur Yn crwydro hyd feysydd y gwyll.
Gwyn Edwards 19 Mawrth, 2006 |
Pen Y Tudalen
Yn Yr Hen Ddyddiau
Yn hen ddyddiau'r offeren, Dyddiau canhwyllau, Dyddiau'r delwau pren a'r murluniau lliwgar, Dyddiau'r parablu Lladin Byddem oll yn ymgynnull Ar bob Sul yn sefyll Fel defaid wrth yr allorau I wrando heb ddeall gair, Ond gwyddom am ddioddefaint Crist Ac am ofal y Forwyn Fair.
Cyn dyfod brenhinoedd yn benaethiaid ffydd Cyn dyfod Tuduriaid, Stiwardiaid na Hanoferiaid, Cyn dyfod y gorthrwm a'r llosgi crefyddol, Yn hen ddyddiau pla ac anwybodaeth, Yn nyddiau'r dyn hysbys a bywyd byr, Yn nyddiau llysieuwyr a bydwragedd y gwrychoedd, Yn y dyddiau hynny Roeddem oll yn baganiaid.
Gwyn Edwards 19 Chwefror, 2007
|
Pen Y Tudalen
Wil Ifan o Fôn
Dwy damed o Farddoniaeth William Evans (Wil Ifan o Fôn) o ei bapurau personnol a gadwi'r yn Archifdy Llangefni, Môn. Hawlfraint, Archifdy Llangefni.
Môn
Ynys brud hen ysbrydion – rhimyntis, Rhamantus, drallodion, Daear weddw'r Derwyddon, Au duwiau mawr ydyw Môn.
Môn f'awenydd, mwyn fyw ynod, Mewn tyddynod meant dy ddynion, Mae llawenydd meilliw, hynod, Mewn bythynnod man, bywthwynion, Mae glofynnod a maes rhosynnod, Mil wrychynnod, mel erchwynion, Mwy, fwy ffynnod, mai nef fynnod, Mwy'n esgynnod manweis gwynion.
Wil Ifan O Fôn (William Evans) |
Pen Y Tudalen
Bum Gynt yn mhen tref China, Pekin, bellennig fan, A'r ddeudroed hyn yn esgyn, Hen glochdy Khublai Khan. ‘ Roedd hwnnw yno'n sefyll, Yr un mor gryf a hardd, Cyn geni mab Glyndyfydrwy, Na Iolo Goch ei fardd. Yng ngwledydd pell y dwyrain, Is haul a bythol wen, ‘ Does dim yn dod o'r newydd, Na dim yn mynd yn hen. Ond Duw a helpo Gymru – Mewn oes neu ddwy dan graith, Anghofiodd rin ei hanes, A chollodd, bron, ei hiaith. Ar uchaf ben y clochdy, Fe dreuliais lawer awr, A'm dwrn fel morthwyl tabwrdd, Yn tyrfu'r hen gloch fawr; Ei rhu oedd fel y daran, Yn deffro pob rhyw barth, A'r babloedd, o'r deheudir, Hyd begwn oer yr arth.
Mae gloch fel honno, meddir, Yn Ogof Arthur Fawr, I'w tharo yn achos rhyddid Pan fynnom, unrhyw awr, Ond Och o'r hanes heddiw, Fe chwarddai Khublai Khan – ‘ Does neb o fechgyn Cymru Yn gwybod am y fan.
Wil Ifan O Fôn. (William Evans) |
Pen Y Tudalen
Eadha Deora
Diolch i Eadha am y farddoniaeth a ddilynni'r. Dysgwr yr iaith Gymraeg yw hi o'r Unol Daliaethau Americanaidd, er fod cangymeriadau gramateg ynddynt, rhaid llongyfarchiadu ei heffaith i ymdrechu ysgrifennu mewn iaith go galed iw ddysgu. Mae'nt yn mynegi ei chariad am yr iaith. Diolch iddi am rannu ei gwaith gyda'r Rhwydwaith.
Ar Calon
Hedd yn calon 'ch, nos ddofn. Y serenau nhw'n chwalu ilawr am y traed o y brenin coronllai. Yr wybrennydd nhw'n lledu yn rhwth am y golwy o y Draig-Tywysog. Breuddwydion mewn yn nos, hedd dwfn.
Eadha Deora Rhagfyr 2005 |
Pen Y Tudalen
cof am yn geltiaid farwYn unig ar y glan, i'n aros. Haul darfod yn araf, eithr i'n trigo bellach - yn ddwys. Lleuad cynyddu yn grwn, eithr i'n sefyll union - yn ddewr. Tywod rhwng fy mysedd troed, Tonnau cwmpas fy ngwddf, Tawelwch a tristwch. Am Yfory.
Lluoedd ar y gorwel, cychod ehedeg. Dyfroedd troi coch dan y haul cywir, seren chwalu. Drychiolaethau gwen pelydru dan y lleuad holliach, breuddwyd creulon. Hwyliau dawnsio yn nigofaint. Rhwyfwyr curo yn atgasrwydd. Nhw'n dod agos. Angau-galwad agos. Yn unig ar y glan, i'n syrthio. Haul crio yn isel, eithr i'n ymgreinio bellach - yn ddwys. Lleuad dangos yn ddaear, eithr i'n pelydru oerllyd - yn ddewr. Gwaed cympas fy gorff, Ysbryd dros cyfarfod chwi, Tawelwch a tristwch. Nid Yfory. Eadha Deora Rhagfyr 2005 |
Pen Y Tudalen
Mark Williams
I Ffraed, y santes, y dduwies
Mae seren wen
yn llifanu ei heirlaw
i’r iard. Mae dŵr
yn datod ei hunan
o’r cwteri, gan siarad
ag atal i ateb yn antiffon
gryndod y sêr.
Dere i mewn.
Dere â’th anadl
wedi’u llosgi gan rew.
Coda dy ddwylo,
eurfrith, a greithwyd
gan dân a drain,
sy’n gwehyddu eurgylch
dros yr oerddaear.
Dere i mewn.
Mae golau’r sêr yn gwyro
o’r tŷ, ac mae’r wawr
yn ei amrwymo mewn gwisg
o haul, yn falm
i groen y gwynt.
Dere i mewn.
Dere i mewn.
Tan rwyllwaith
canghennau, wedi’u
morteisio gan olau
brau'r gwanwyn,
mi wela i ôl dy droed
yn tywynnu ar fy nhrothwy.
Mark Williams Mawrth 2007 |
Pen Y Tudalen
Angela Grant
Mae Angela yn dysgu Cymraeg. Fe ddychmygodd hi'r meddwl dan y gerdd a sgrifennodd y fersiwn cyntaf yn Gymraeg. Gaeth ei cherdd ei llathru gyda chymorth Anna Timby.
Alban Arthan
Myfi yw’r nos,
myfi yw’r tywyllwch,
myfi yw’r fagddu,
collaf i fy hun mewn dim,
mewn gwacter, mewn oerni.
Ai dyma ddedwyddyd diwedd?
Marwolaeth yr enaid?
Nage, anobaith, dolurus, dros dro ydyw.
Colli hunaniaeth
gan dderbyn poen.
Ni phery hyn yn hir
canys ar ôl y tywyllwch daw’r wawr,
ar ôl anobaith, gobaith,
ar ôl gwayw, iachâd,
ar ôl oerfel, gwres,
ar ôl marwolaeth, bywyd.
Gobaith yr haul
yn codi……
Angela Grant (Cenlli Goch) Ebrill 2007 |
|
|