Chwedl enwog o'r Mabinogi, yn mynegi anturiaethau Branwen a Bendigeidfran ei brawd, y brenin Prydain. Mae'r stori yn symud yn gyffrous rhwng Aberffraw ym Môn, Iwerddon, a Llundain. Stori llawn o ddigwyddiadau rhyfedd, trais, a thrasiedi uchel yw Branwen.
Bendigeiduran uab Llyr a oed urenhin coronawc ar yr ynys hon, ac
ardyrchawc o goron Lundein. A frynhawngueith yd oed yn Hardlech yn Ardudwy,
yn llys idaw. Ac yn eisted yd oedynt ar garrec Hardlech, uch penn y weilgi,
a Manawydan uab Llyr y urawt y gyt ac ef, a deu uroder un uam ac ef, Nissyen
ac Efnyssen, a guyrda y am hynny, mal y gwedei ynghylch brenhin. Y deu
uroder un uam ac ef, meibon oedynt y Eurosswyd o'e uam ynteu Penardun,
uerch Ueli uab Mynogan. A'r neill o'r gueisson hynny, gwas da oed: ef a
barei tangneued y rwg y deu lu, ban uydynt lidyawcaf: sef oed hwnnw Nissyen.
Y llal a barei ymlad y rwng y deu uroder, ban uei uwyaf yd ymgerynt.
Ac ual yd oedynt yn eisted yuelly, wynt a welynt teir llong ar dec, yn
dyuot o deheu Iwerdon, ac yn kyrchu parth ac attunt, a cherdet rugyl ebrwyd
ganthunt, y gwynt yn eu hol, ac yn nessau yn ebrwyd attunt. 'Mi a welaf
longeu racco,' heb y brenhin, 'ac yn dyuot yn hy parth a'r tir. Ac erchwch
y wyr y llys wiscaw amdanunt, a mynet y edrych pa uedwl yw yr eidunt.'
Y gwyr a wiscawd amdanunt ac a nessayssant attunt y wayret. Gwedy guelet
y llongeu o agos, diheu oed ganthunt na welsynt eiryoet llongeu gyweirach
eu hansawd noc wy. Arwydon tec, guedus, arweid o bali oed arnunt.
Ac ar hynny, nachaf un o'r llongeu yn raculaenu rac y rei ereill, ac y
guelynt dyrchauael taryan yn uch no bwrd y llong, a swch y taryan y uynyd
yn arwyd tangneued. Ac y nessawys y gwyr attunt, ual yd ymglywynt ymdidan.
Bwrw badeu allan a wnaethont wynteu, a nessau parth a'r tir, a chyuarch
guell y'r brenhin. E brenhin a'e clywei wynteu o'r lle yd oed ar garrec
uchel uch eu penn. 'Duw a rodo da ywch,' heb ef, 'a grayssaw wrthywch.
Pieu yniuer y llongeu hynn, a phwy yssyd pennaf arnunt wy?' 'Arglwyd,'
heb wynt, 'mae ymma Matholwch brenhin Iwerdon, ac ef bieu y llongeu.' 'Beth,'
heb y brenhin, 'a uynnhei ef? A uyn ef dyuot y'r tir?' 'Na uynn, Arglwyd,'
heb wynt, 'negessawl yw wrthyt ti, onyt y neges a geif.' 'By ryw neges
yw yr eidaw ef?' heb y brenhin. 'Mynnu ymgyuathrachu a thidy, Arglwyd,'
heb wynt. 'Y erchi Branwen uerch Lyr y doeth, ac os da genhyt ti, ef a
uyn ymrwymaw Ynys y Kedeirn ac Iwerdon y gyt, ual y bydynt gadarnach.'
'Ie,' heb ynteu, 'doet y'r tir, a chynghor a gymerwn ninheu am hynny.'
Yr atteb hwnnw a aeth ataw ef. 'Minheu a af yn llawen,' heb ef. Ef a doeth
y'r tir, a llawen uuwyt wrthaw; a dygyuor mawr uu yn y llys y nos honno,
y rwng e yniuer ef ac yniuer y llys.
Yn y lle trannoeth, kymryt kynghor. Sef a gahat yn y kynghor, rodi Branwen
y Uatholwch. A honno oed tryded prif rieni yn yr ynys hon; teccaf morwyn
yn y byt oed. A gwneuthur oed yn Aberfraw y gyscu genti, ac odyno y kychwyn.
Ac y kychwynassant yr yniueroed hynny parth ac Aberfraw, Matholwch a'y
yniueroed yn y llongheu, Bendigeituran a'y niuer ynteu ar tir, yny doethant
hyt yn Aberfraw.
Yn Aberfraw dechreu y wled, ac eisted. Sef ual yd eistedyssant: brenhin
Ynys y Kedeirn a Manawydan uab Llyr o'r neill parth idaw, a Matholwch o'r
parth arall, a Branwen uerch Lyr gyt ac ynteu.
Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu. Ny angassei Uendigeituran
eiryoet ymywn ty.
A'r gyuedach a dechreussant. Dilit y gyuedach a wnaethant ac ymdidan.
A phan welsant uot yn well udunt kymryt hun no dilyt kyuedach, y gyscu
yd aethant. A'r nos honno y kyscwys Matholwch gan Uranwen. A thrannoeth,
kyuodi a orugant pawb o niuer y llys; a'r swydwyr a dechreusant ymaruar
am rannyat y meirych a'r gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym pob kyueir
hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyssen [y] gwr anagneuedus
a dywedassam uchot, yn dywanu y lety meirch Matholwch, a gouyn a wnaeth,
pioed y meirch. 'Meirych Matholwch brenhin Iwerdon yw y rei hyn,' heb wy.
'Beth a wnant wy yna?' heb ef. 'Yma y mae brenhin Iwerdon, ac yr gyscwys
gan Uranwen dy chwaer, a'y ureirych yw y rei hynn.' 'Ay yuelly y gwnaethant
wy am uorwyn kystal a honno, ac yn chwaer y minheu, y rodi heb uyghanyat
i? Ny ellynt wy tremic uwy arnaf i,' heb ef. Ac yn hynny guan y dan y meirych,
a thorri y guefleu wrth y danned udunt, a'r clusteu wrth y penneu, a'r
rawn wrth y keuyn; ac ny caei graf ar yr amranneu, eu llad wrth yr ascwrn.
A gwneuthur anfuryf ar y meirych yuelly, hyd nat oed rym a ellit a'r meirych.
E chwedyl a doeth at Uatholwch. Sef ual y doeth: dywedut anfuruaw y ueirych
ac eu llygru, hyt nat oed un mwynyant a ellit ohonunt. 'Ie, Arglwyd,' heb
un, 'dy waradwydaw yr a wnaethpwyt, a hynny a uynhir y wneuthur a thi.'
'Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd,
gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym.' 'Arglwyd,' heb un arall,
'ti a wely dangos ef. Ac nyt oes it a wnelych namyn kyrchu dy longeu.'
Ac ar hynny arouun y longeu a wnaeth ef.
E chwedyl a doeth at Uendigeituran, bot Matholwch yn adaw y llys, heb
ouyn, heb ganhyat. A chenadeu a aeth y ouyn idaw, paham oed hynny. Sef
kennadeu a aeth, Idic uab Anarawc, ac Eueyd Hir. Y guyr hynny a'y godiwawd,
ac a ouynyssant idaw, pa darpar oed yr eidaw, a pha achaws yd oed yn mynet
e ymdeith. ‘Dioer,’ heb ynteu, ‘pei ys gwypwn, ny down
yma. Cwbyl waradwyd a geueis. Ac ny duc neb kyrch waeth no'r dugum ymma.
A reuedawt rygyueryw a mi.’ ‘Beth yw hynny?’ heb wynt. ‘Rodi
Bronwen uerch Lyr ym, yn tryded prif rieni yr ynys honn, ac yn uerch y
urenhin Ynys y Kedeyrn, a chyscu genthi, a gwedy hynny uy gwaradwydaw.
A ryued oed genhyf, nat kyn rodi morwyn gystal a honno ym, y gwneit y gwaradwyd
a wnelit ym.’ ‘Dioer, Arglwyd, nyt o uod y neb a uedei y llys,’ heb
wynt, ‘na neb o'e kynghor y gwnaet[h]pwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A
chyt bo gwaradwyd gennyt ti hynny, mwy yw gan Uendigeituran no chenyt ti,
y tremic hwnnw a'r guare,’ ‘Ie,’ heb ef, ‘mi
a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy niwaradwydaw i o hynny.’
E gwyr hynny a. ymchwelwys a'r atteb hwnnw, parth a'r lle yd oed Uendigeituran,
a menegi idaw yr atteb a diwedyssei Uatholwch. ‘Ie,’ heb ynteu, ‘nyt
oes ymwaret e uynet ef yn anygneuedus, ac nys gadwn.’ ‘Ie,
Arglwyd,’ heb wy, ‘anuon etwa genhadeu yn y ol.’ ‘Anuonaf,’ heb
ef. ‘Kyuodwch, Uanawydan uab Llyr, ac Eueyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd,
ac ewch yn y ol,’ heb ef, ‘a menegwch idaw, ef a geif march
iach am pob un o'r a lygrwyt; ac y gyt a hynny, ef a geif yn wynepwerth
idaw llathen aryant a uo kyuref [a'e uys bychan] a chyhyt ac ef e hun,
a chlawr eur kyflet a'y wyneb , a menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny,
a phan yw o'm anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a
mi a wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf i na'e lad na'e diuetha; a doet
y ymwelet a mi,’ heb ef, ‘a mi a wnaf y dangneued ar y llun
y mynho e hun.’
E kennadeu a aethant ar ol Matholwch, ac a uanagyssant
idaw yr ymadrawd hwnnw yn garedic, ac ef a'e guerendewis. 'A wyr,' heb
ef, 'ni a gymerwn
gynghor.' Ef a aeth yn y gynghor. Sef kynghor a uedylyssant: os gwrthot
hynny a wnelynt, bot yn tebygach ganthunt cael kywilid a uei uwy no chael
iawn a uei uwy. A disgynnu a wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant
yn dangneuedus. A chyweiraw y pebylleu a'r palleu a wnaethant udunt ar
ureint kyweirdeb yneuad, a mynet y uwyta. Ac ual y dechreuyssant eisted
ar dechreu y wled, yd eistedyssant yna.
A dechreu ymdidan a wnaeth Matholwch a Bendigeituran.
Ac nachaf yn ardiawc gan Uendigeituran y[r] ymdidan, ac yn drist, a gaei
gan Uatholwch, a'y lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a wnaeth
bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei o iawn am y gam. 'A wr,'
heb y Bendigeiduran, 'nit wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos. Ac os yr
bychanet genhyt ti dy iawn, ti a gehy ychwanegu yt wrth dy uynnu, ac auory
talu dy ueirch yt.' 'Arglwyd,' heb ef, 'Duw a dalo yt.' 'Mi a delediwaf
dy iawn heuyt yt,' heb y Bendigeituran. 'Mi a rodaf yt peir, a chynnedyf
y peir yw, y gwr a lader hediw yt, y uwrw yn y peir, ac erbyn auory y uot
yn gystal ac y bu oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw.' A diolwch a wnaeth
ynteu hynny, a diruawr lywenyd a gymerth ynteu o'r achaws hwnnw. A thrannoeth
y talwyt y ueirych idaw, tra barhawd meirych dof. Ac odyna y kyrchwyt ac
ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon ydaw, yny uu gwbyl idaw y dal. Ac wrth
hynny y dodet ar y kymwt hwnnw, o hynny allan, Tal Ebolyon.
A'r eil nos, eisted y gyt a wnaethant. 'Arglwyd,' heb
y Matholwch, 'pan doeth yti y peir a rodeist ymi?' 'E doeth im,' heb ef,
'y gan wr a uu y'th wlat ti. Ac ni wn na bo yno y caffo.' 'Pwy oed hwnnw?'
heb ef. 'Llassar Llaes Gyfnewit,' heb ef. 'A hwnnw a doeth yma o Iwerdon,
a Chymidei Kymeinuoll, y wreic, y gyt ac ef, ac a dianghyssant o'r ty hayarn
yn Iwerdon pan wnaethpwyt yn wenn yn eu kylch, ac y dianghyssant odyno.
Ac eres gynhyf i ony wdosti dim y wrth hynny.'
'Gwn, Arglwyd,' heb ef, 'a chymeint ac a wnn, mi a'e managaf
yti. Yn hela yd oedwn yn Iwerdon dydgueith ar benn go[r]ssed uch penn llyn
oed yn Iwerdon, a Llyn y Peir y gelwit. A mi a welwn gwr melyngoch mawr,
yn dyuot o'r llyn, a pheir ar y geuyn. A gwr heuyt athrugar mawr, a drygweith
anorles arnaw oed; a gwreic yn y ol; ac ot oed uawr ef, mwy dwyweith oed
y wreic noc ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyuarch uell im.' 'Ie,'
heb y mi, 'pa gerdet yssyd arnawch chwi?' 'Llyna gerdet yssyd arnam ni,
Arglwyd,' heb ef: 'y wreic honn,' heb ef, 'ym penn pethewnos a mis, y byd
beichogi idi, a'r mab a aner yna o'r torllwyth hwnnw, ar benn y pethewnos
a'r mi, y byd gwr ymlad llawn aruawc.'
'Y kymereis inheu wyntwy arnaf, yu gossymdeithaw: y buant
ulwydyn gyt a mi. Yn y ulwydyn y keueis yn diwarauun wynt; o hynny allann
y guarauunwyt im. A chyn penn y pedwyryd [mis] wynt eu hun yn peri eu hatcassu,
ac anghynwys yn y wlat, yn gwneuthur sarahedeu, ac yn eighaw ac yn gouudyaw
guyrda a gwragedda. O hynny allan y dygyuores uyg kyuoeth am ym pen y erchi
im ymuadeu ac wynt, a rodi dewis im, ae uyg kyuoeth ae wynt.
'E dodeis inheu ar gynghor uy gwlat beth a wneit amdanunt.
Nyd eynt wy o'y bod; nit oed reit udunt wynteu oc eu hanuod, herwyd ymlad,
uynet. Av yna yn y kyuyng gynghor, y causant gwneuthur ystauell haearn
oll; a gwedy bot y barawt yr ystauell, dyuyn a oed o of yn Iwerdon yno,
o'r a oed o perchen geuel a mwrthwl, a pheri gossot kyuuch a chrib yr ystauell
o lo, a pheri guassaneuthu yn diwall o uwyt a llyn arnunt, ar y wreic,
a'y gwr, a'y phlant. A phan wybuwyt eu medwi wynteu, y dechreuwyt kymyscu
y tan a'r glo am ben yr ystauell, a chwythu y megineu a oed wedy eu gossot
yg kylch y ty, a gwr a pob dwy uegin, a dechreu chwythu y megineu yny uyd
y ty yn burwen am eu penn. Ac yna y bu y kynghor ganthunt hwy ymherued
llawr yr ystauell; ac yd arhoes ef yny uyd y pleit haearn yn wenn. Ac rac
diruawr wres, y kyrchwys y bleit a'e yscwyd a'y tharaw gantaw allan, ac
yn y ol ynteu y wreic. A neb ni dieghis odyna namyn ef a'e wreic. Ac yna
o'm tebygu i, Arglwyd,' heb y Matholwch wrth Uendigeiduran, 'y doeth ef
drwod attat ti.' 'Yna dioer,' heb ynteu, 'y doeth yma, ac y roes y peir
y minheu.' 'Pa delw, Arglwyd, yd erbynneisti wynteu?' 'Eu rannu ym pob
lle yn y kyuoeth, ac y maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle,
ac yn cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a welas neb.'
Dilit ymdidan a wnaethant y nos honno, tra uu da ganthunt,
a cherd a chyuedach. A phan welsant uot yn llessach udunt uynet y gyscu
noc eisted a wei hwy, y gyscu yd aethant. Ac yuelly y treulyssant y wled
honno drwy digriuwch. Ac yn niwed hynny, y kychwynnwys Matholwch, a Branuen
y gyt ac ef, parth ac Iwerdon. A hynny o Abermenei y kychwynnyssant teir
llong ar dec, ac y doethant hyt yn Iwerdon.
Yn Iwerdon, dirwawr lywenyd a uu wrthunt. Ny doey wr mawr,
na gwreic da yn Iwerdon, e ymw[e]let a Branwen, ni rodei hi ae cae ae modrwy
ae teyrndlws cadwedic ydaw, a uei arbennic y welet yn mynet e ymdeith.
Ac ymysc hynny, y ulwydyn honno a duc hi yn glotuawr, a hwyl delediw a
duc
hi o glot a chedymdeithon. Ac yn hynny, beichogi a damweinwys idi y gael.
A guedy treulaw yr amseroyd dylyedus, mab a anet idi. Sef enw a dodet ar
y mab, Guern ab Matholwch. Rodi y mab ar uaeth a wnaethpwyt ar un lle goreu
y wyr yn Iwerdon.
A hynny yn yr eil ulwydyn, llyma ymodwrd yn Iwerdon am
y guaradwyd a gawssei Matholwch yg Kymry, a'r somm a wnathoedit idaw am
y ueirch. A hynny y urodyr maeth, a'r gwyr nessaf gantaw, yn lliwaw idaw
hynny, a heb y gelu. A nachaf y dygyuor yn Iwerdon hyt nat oed lonyd idaw
ony chaei dial y sarahet. Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystauell
ac ef, a'y chymell y bobi yn y llys, a pheri y'r kygyd, gwedy bei yn dryllyaw
kic, dyuot idi a tharaw bonclust arnei beunyd. Ac yuelly y gwnaethpwyt
y foen. 'Ie, Arglwyd,' heb y wyr wrth Uatholwch, 'par weithon wahard y
llongeu, a'r yscraffeu, a'r corygeu, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma
o Gymry, carchara wynt [ac] na at trachefyn, rac gwybot hynn.' Ac ar hynny
y diskynyssant.
Blwynyded nit llei no their y buant yuelly. Ac yn hynny,
meithryn ederyn drydwen a wnaeth hitheu ar dal y noe gyt a hi, a dyscu
ieith idi, a menegi y'r ederyn y ryw wr oed y brawt. A dwyn llythyr y poeneu
a'r amharch a oed arnei hitheu. A'r llythyr a rwymwyt am uon eskyll yr
ederyn, a'y anuon parth a Chymry, a'r ederyn a doeth y'r ynys honn. Sef
lle y cauas Uendigeiduran, yg Kaer Seint yn Aruon, yn dadleu idaw dydgweith.
A diskynnu ar e yscwyd, a garwhau y phluf, yny arganuuwyt y llythyr, ac
adnabot meithryn yr ederyn yg kyuanned. Ac yna kymryt y llythyr a'y edrych.
A phan darllewyt y llythyr, doluryaw a wnaeth o glybot y poen oed ar Uranwen,
a dechreu o'r lle hwnnw peri anuon kennadeu y dygyuoryaw yr ynys honn y
gyt. Ac yna y peris ef dyuot llwyr wys pedeir degwlat a seithugeint hyt
attaw, ac e hun cwynaw wrth hynny, bot y poen a oed ar y chwaer. Ac yna
kymryt kynghor. Sef kynghor a gahat, kyrchu Iwerdon, ac adaw seithwyr y
dywyssogyon yma, a Chradawc uab Bran y benhaf, ac eu seith marchawc. Yn
Edeirnon yd edewit y gwyr hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc
ar y dref. Sef seithwyr oedynt, Cradawc uab Bran, ac Euehyd Hir, ac Unic
Glew Yscwyd, ac Idic uab Anarawc Walltgrwn, a Fodor uab Eruyll, ac Wlch
Minasgwrn, a Llashar uab Llayssar Llaesgygwyt, a Phendaran Dyuet yn was
ieuanc gyt ac wy. Y seith hynny a drigwys yn seith kynueissat y synyaw
ar yr ynys honn, a Chradawc uab Bran yn benhaf kynweisyat arnunt.
Bendigeiduran, a'r yniuer a dywedyssam ni, a hwylyssant
parth ac Iwerdon, ac nyt oed uawr y weilgi yna: y ueis yd aeth ef. Nyt
oed namyn dwy auon: Lli ac Archan y gelwit. A guedy hynny yd amlawys y
weilgi, pan oreskynwys y weilgi y tyrnassoed. Ac yna y kerdwys ef ac a
oed o gerd arwest ar y geuyn e hun, a chyrchu tir Iwerdon.
A meicheit Matholwch a oedynt ar lan y weilgi dydgueith,
yn troi yg kylch eu moch. Ac o achaws e dremynt a welsant ar y weilgi,
wy a doethant at Matholwch. 'Arglwyd,' heb vy, 'henpych guell.' 'Duw a
rodo da ywch,' heb ef, 'a chwedleu genhwch.' 'Arglwyd,' heb wy, 'mae genhym
ni chwedleu ryued: coet rywelsom ar y weilgi, yn y lle ny welsam eiryoet
un prenn.' 'Llyna beth eres,' heb ef. 'A welewch wchi dim namyn hynny?'
'Gwelem, Arglwyd,' heb wy, 'mynyd mawr gyr llaw y coet, a hwnnw ar gerdet;
ac eskeir aruchel ar y mynyd, a llynn o pop parth y'r eskeir; a'r coet,
a'r mynyd, a phob peth oll o hynny ar gerdet.' 'Ie,' heb ynteu, 'nyt oes
neb yma a wypo dim y wrth hynny, onys gwyr Branwen. Gouynnwch idi.' Kennadeu
a aeth at Uranwen. 'Arglwydes,' heb wy, 'beth dybygy di yw hynny?' 'Kyn
ny bwyf arglwydes,' heb hi, 'mi a wnn beth yw hynny: gwyr Ynys y Kedyrn
yn dyuot drwod o glybot uym poen a'm amharch.' 'Beth yw y coet a welat
ar y mor?' heb wy. 'Gwernenni llongeu a hwylbrenni,' heb hi. 'Och,' heb
wy, 'beth oed y mynyd a welit gan ystlys y llongeu?' 'Bendigeiduran uym
brawt,' heb hi, 'oed hwnnw, yn dyuot y ueis. Nyd oed long y kynghanei ef
yndi.' 'Beth oed yr eskeir aruchel a'r llynn o bop parth y'r eskeir?' 'Ef,'
heb hi, 'yn edrych ar yr ynys honn, llidyawc yw. Y deu lygat ef o pop parth
y drwyn yw y dwy lynn o bop parth y'r eskeir.'
Ac yna dygyuor holl wyr ymlad Iwerdon a wnaethpwyt y gyt,
a'r holl uorbennyd yn gyflym, a chynghor a gymerwyt. 'Arglwyd,' heb y wyrda
wrth Uatholwch, 'nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon {auon oed yn Iwerdon},
a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont yssyd ar yr auon. A mein sugyn
yssyd ygwaelawt yr auon, ny eill na llong na llestyr arnei.' Wynt a gylyssant
drwy yr auon, ac a torryssant y bont.
Bendigeiduran a doeth y'r tir, a llynges y gyt ac ef,
parth a glann yr auon. 'Arglwyd,' heb y wyrda, 'ti a wdost kynnedyf yr
auon, ny eill neb uynet drwydi, nyt oes bont arnei hitheu. Mae dy gynghor
am bont?' heb wy. 'Nit oes,' heb ynteu, 'namyn a uo penn bit pont. Mi a
uydaf pont', heb ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt y geir hwnnw, ac y diharebir
etwa ohonaw.
Ac yna guedy gorwed ohonaw ef ar traws yr auon, y byrwyt
clwydeu arnaw ef, ac yd aeth y luoed ef ar y draws ef drwod. Ar hynny,
gyt ac y kyuodes ef, llyma gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn
kyuarch guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr, ac
yn menegi o'e uod ef na haedei arnaw ef namyn da. 'Ac y mae Matholwch yn
rodi brenhinaeth Iwerdon y Wern uab Matholwch, dy nei ditheu, uab dy chwaer,
ac yn y ystynnu y'th wyd di, yn lle y cam a'r codyant a wnaethpwyt y Uranwen.
Ac yn y lle y mynnych ditheu, ay yma ay yn Ynys y Kedyrn, gossymdeitha
Uatholwch.' 'Ie,' heb ynteu Uendigeiduran, 'ony allaf i ue hun cael y urenhinaeth,
ac aduyd ys kymeraf gynghor am ych kennadwri chwi. O hyn hyt ban del amgen,
ny cheffwch y genhyf i attep.' 'Ie,' heb wynteu, 'yr atteb goreu a gaffom
ninheu, atat ti y down ac ef, ac aro ditheu yn kennadwri ninheu.' 'Arhoaf,'
heb ef, 'o dowch yn ehegyr.'
Y kennadeu a gyrchyssant racdu, ac at Uatholwch y doethant.
'Arglwyd,' heb wy, 'kyweira attep a uo gwell at Uendigeidwran. Ny warandawei
dim o'r attep a aeth y genhym ni attaw ef.' 'A wyr,' heb y Matholwch, 'mae
ych kynghor chwi?' 'Arglwyd', heb wy, 'nyt oes it gynghor namyn un. Ni
enghis ef ymywn ty eiryoet,' heb wy. 'Gwna ty,' heb wy, 'o'y anryded ef,
y ganho ef a gwyr Ynys y Kedyrn yn y neill parth y'r ty, a thitheu a'th
lu yn y parth arall. A doro dy urenhinaeth yn y ewyllus, a gwra idaw. Ac
o enryded gwneuthur y ty,' heb wy, 'peth ny chauas eiryoet ty y ganhei
yndaw, ef a tangnoueda a thi.' A'r kennadeu a doethant a'r gennadwri honno
gantunt at Uendigeiduran; ac ynteu a gymerth gynghor. Sef a gauas yn y
gynghor, kymryt hynny; a thrwy gynghor Branuen uu hynny oll, ac rac llygru
y wlat oed genti hitheu hynny.
E tangneued a gyweirwyt, a'r ty a adeilwyt yn uawr ac
yn braf. Ac ystryw a wnaeth y Gwydyl. Sef ystryw a wnaethant, dodi guanas
o bop parth y bop colouyn o cant colouyn oed yn y ty, a dodi boly croyn
ar bop guanas, a gwr aruawc ym pob vn ohonunt. Sef a wnaeth Efnyssyen dyuot
ymlaen llu Ynys y Kedyrn ymywn, ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar
hyt y ty. Ac arganuot y bolyeu crwyn a wnaeth ar hyt y pyst. 'Beth yssyd
yn y boly hwnn?' heb ef, wrth un o'r Gwydyl. 'Blawt, eneit,' heb ef. Sef
a wnaeth ynteu, y deimlaw hyt ban gauas y benn, a guascu y benn, yny glyw
y uyssed yn ymanodi yn y ureichell drwy yr ascwrn. Ac adaw hwnnw, a dodi
y law ar un arall a gouyn, 'Beth yssyd yma?' 'Blawt,' medei y Gwydel. Sef
a wnai ynteu yr un guare a fawb ohonunt, hyt nat edewis ef wr byw o'r hollwyr
o'r deu cannwr eithyr un. A dyuot at hwnnw, a gouyn, 'Beth yssyd yma?'
'Blawt, eneit,' heb y Gwydel. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw ef yny gauas
y benn, ac ual y guascassei benneu y rei ereill, guascu penn hwnnw. Sef
y clywei arueu am benn hwnnw. Nyt ymedewis ef a hwnnw, yny ladawd. Ac yna
canu englyn:-
Ac ar hynny y dothyw y niueroed y'r
ty.
Ac y doeth gwyr Ynys Iwerdon y'r ty o'r neill parth, a gwyr Ynys y Kedyrn
o'r parth arall. Ac yn gyn ebrwydet ac yd eistedyssant y bu duundeb y
rydunt, ac yd ystynnwyt y urenhinaeth y'r mab.
Ac yna, guedy daruot y tangneued, galw o Uendigeiduran y mab attaw. Y
gan Uendigeiduran y kyrchawd y mab at Uanawydan, a phawb o'r a'e guelei
yn y garu. E gan Uanawydan y gelwis Nyssyen uab Eurosswyd y mab attaw.
Y mab a aeth attaw yn diryon. 'Paham,' heb yr Efnissyen, 'na daw uy
nei, uab uy chwaer, attaf i? Kyn ny bei urenhin ar Iwerdon, da oed
genhyf i ymtiryoni a'r mab.' 'Aet yn llawen.' heb y Bendigeiduran.
Y mab a aeth attaw yn llawen. 'Y Duw y dygaf uyg kyffes,' heb ynteu
yn y uedwl, 'ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf
i yr awr honn.' A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a
heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny want y mab yn wysc
y benn yn y gynneu. A fan welas Uranwen y mab yn boeth yn y tan, hi
a gynsynwys uwrw neit yn y tan, o'r lle yd oed yn eisted rwng y deu
uroder. A chael o Uendigeiduran hi yn y neill law, a'y tarean yn y
llaw arall. Ac yna, ymgyuot o bawb ar hyt y ty. A llyna y godwrw mwyhaf
a uu gan yniuer un ty, pawb yn kymryt y arueu. Ac yna y dywot Mordwyd
Tyllyon, 'Guern gwn, gwchuiwch Uordwyt Tyllyon,' Ac yn yd aeth pawb
ym pen yr arueu, y kynhelis Bendigeiduran Uranwen y rwng y taryan a'y
yscwyd.
Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna y byrywyt
y kalaned yn y peir, yny uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y bore
yn wyr ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan welas
Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr Ynys y Kedyrn, y dywot
yn y uedwl, 'Oy a Duw,' heb ef, 'guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic
honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,' heb ef, 'ony cheissaf i waret
rac hynn.' Ac ymedyryaw ymlith calaned y Gwydyl, a dyuot deu Wydel
uonllwm idaw, a'y uwrw yn y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu
yn y peir, yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y dalon ynteu.
Ac o hynny y bu y meint goruot a uu y wyr Ynys y Kedyrn. Ny bu oruot
o hynny eithyr diang seithwyr, a brathu Bendigeiduran yn y troet a
guenwynwaew. Sef seithwyr a dienghis, Pryderi, Manawydan, Gliuieu Eil
Taran, Talyessin, ac Ynawc, Grudyeu uab Muryel, Heilyn uab Gwyn Hen.
Ac yna y peris Bendigeiduran llad y benn. 'A chymerwch chwi y penn,'
heb ef, 'a dygwch hyt y Gwynuryn yn Llundein, a chledwch a'y wyneb
ar Freinc ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir; yn Hardlech y bydwch
seith mlyned ar ginyaw, ac Adar Riannon y canu ywch. A'r penn a uyd
kystal gennwch y gedymdeithas ac y bu oreu gennwch, ban uu arnaf i
eiryoet. Ac y Guales ym Penuro y bydwch pedwarugeint mlyned. Ac yny
agoroch y drws parth ac Aber Henueleu, y tu ar Gernyw, y gellwch uot
yno a'r penn yn dilwgyr genhwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ny
ellwch uot yno. Kyrchwch Lundein y gladu y penn. A chyrchwch chwi racoch
drwod.' Ac yna y llas y benn ef, ac y kychwynassant a'r penn gantu
drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Tal
Ebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys.
Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt.
'Oy a uab Duw,' heb hi, 'guae ui o'm ganedigaeth. Da a dwy ynys a diffeithwyt
o'm achaws i.' A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A
gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yGlan Alaw.
Ac ar hynny, kerdet a wnaeth y seithwyr parth a Hardlech, a'r penn ganthunt.
Val y bydant y kerdet, llyma gyweithyd yn kyuaruot ac wynt, o wyr a
gwraged. 'A oes gennwch chwi chwedleu?' heb y Manawydan. 'Nac oes',
heb wynt, 'onyt goresgyn o Gaswallawn uab Beli Ynys y Kedyrn, a'y uot
yn urenhin coronawc yn Llundein.' 'Pa daruu,' heb wynteu, 'y Gradawc
uab Bran, a'r seithwyr a edewit y gyt ac ef yn yr ynys honn?' 'Dyuot
Caswallawn am eu penn, a llad y chwegwyr, a thorri ohonaw ynteu Gradawc
y galon o aniuyget, am welet y cledyf yn llad y wyr, ac na wydat pwy
a'e lladei. Caswallawn a daroed idaw wiscaw llen hut amdanaw, ac ny
welei neb ef yn llad y gwyr, namyn y cledyf. Ny uynhei Gaswallawn y
lad ynteu: y nei, uab y geuynderw, oed. A hwnnw uu y trydyd dyn a torres
y gallon o aniuyget. Pendarar Dyuet, a oed yn was ieuang gyt a'r seithwyr,
a dienghis y'r coet,' heb wynt.
Ac yna y kyrchyssant wynteu Hardlech, ac y dechreussant eisted, ac y
dechreuwyt ymdiwallu o uwyt a llynn. Ac y [gyt ac y] dechreuyssant
wynteu uwyta ac yuet, dyuot tri ederyn, a dechreu canu udunt ryw gerd,
ac oc a glywssynt o gerd, diuwyn oed pob un iwrthi hi. A fell dremynt
oed udunt y guelet uch benn y weilgi allan. A chyn amlyket oed udunt
wy a chyn bydynt gyt ac wy. Ac ar hynny o ginyaw y buant seith mlyned.
Ac ym penn y seithuet ulwydyn, y kychwynyssant parth a Gualas ym Penuro.
Ac yno yd oed udunt lle teg brenhineid uch benn y weilgi, ac yneuad
uawr oed, ac y'r neuad y kyrchyssant. A deu drws a welynt yn agoret;
y trydyd drws oed y gayat, yr hwnn y tu a Chernyw. 'Weldy racco,' heb
y Manawydan, 'y drws ny dylywn ni y agori.' A'r nos honno y buant yno
yn diwall, ac yn digrif ganthunt. Ac yr a welsynt o ouut yn y gwyd,
ac yr a gewssynt e hun, ny doy gof udunt wy dim, nac o hynny nac o
alar yn y byt. Ac yno y treulyssant y pedwarugeint mlyned hyt na wybuant
wy eiryoet dwyn yspeit digriuach na hyurydach no honno. Nyt oed anesmwythach,
nac adnabot o un ar y gilyd y uot yn hynny o amser, no fan doethan
yno. Nit oed anesmwythach ganthunt wynte gyduot y penn yna, no phan
uuassei Uendigeiduran yn uyw gyd ac wynt. Ac o achaws y pedwarugeint
mlyned hynny y gelwit Yspydawt Urdaul Benn. {Yspydawt Uranwen a Matholwch
oed yr honn yd aethpwyt e Iwerdon}.
Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith: 'Meuyl ar uy maryf i,' heb ef,
'onyt agoraf y drws, e wybot ay gwir a dywedir am hynny.' Agori y drws
a wnaeth, ac edrych ar Gernyw, ac ar Aber Henueleu. A phan edrychwys,
yd oed yn gyn hyspysset ganthunt y gyniuer collet a gollyssynt eiryoet,
a'r gyniuer car a chedymdeith a gollyssynt, a'r gyniuer drwc a dothoed
udunt, a chyt bei yno y kyuarffei ac wynt; ac yn benhaf oll am eu harglwyd.
Ac o'r gyuawr honno, ny allyssant wy orfowys namyn ky[r]chu a'r penn
parth a Llundein. Pa hyt bynnac y bydynt ar y ford, wynt a doethant
hyt yn Llundein, ac a gladyssant y penn yn y Gwynuryn.
A hwnnw [uu y] trydyd matcud ban gudywyt, a'r trydyd anuat datcud pann
datcudywyt; cany doey ormes byth drwy uor y'r ynys honn, tra uei y
penn yn y cud hwnnw. A hynny a dyweit y kyuarwydyd hwnn. Eu kyfranc
wy, 'Y gwyr a gychwynwys o Iwerdon' yw hwnnw.
En Iwerdon nyt edewit dyn byw, namyn pump gwraged beichawc ymywn gogof
yn diffeithwch Iwerdon. A'r pump wraged hynny, yn yr un kyfnot, a anet
udunt pum meib. A'r pym meib hynny a uagyssant hyt ban uuant weisson
mawr, ac yny uedylyssant am wraged, ac yny uu damunet gantunt eu cafael.
Ac yna, kyscu pob un lau heb lau gan uam y gilid, a gwledychu y wlat
a'y chyuanhedu, a'y rannu y rydunt yll pymp. Ac o achaws y ranyat hwnnw
y gelwir etwan pymp rann Ywerdon. Ac edrych y wlat a wnaethant ford
y buassei yr aeruaeu, a chael eur, ac aryant, yny ytoedynt yn gyuoethawc.
A llyna ual y teruyna y geing honn o'r Mabinyogi, o achaws Paluawt Branwen,
yr honn a uu tryded anuat paluawt yn yr ynys honn; ac o achaws Yspadawt
Uran, pan aeth yniuer pedeir decwlat a seithugeint e Iwerdon, y dial
Paluawt Branwen; ac am y ginyaw yn Hardlech seith mlyned; ac am Ganyat
Adar Riannon; ac a[m] Yspydaut Benn pedwarugeint mlyned.