| 1 | | Dygogan awen dygobryssyn. | 13.2 |
| 2 | | maraned a meued ahed genhyn. | |
| 3 | | Aphennaeth ehelaeth affraeth vnbyn. | 13.3 |
| 4 | | Agwedy dyhed anhed ym pop mehyn. | 13.4 |
| 5 | | Gwyr gwychyr yntrydar kasnar degyn. | 13.5 |
| 6 | | escut yg gofut ryhyt diffyn. | 13.6 |
| 7 | | Gwaethyl gwyr hyt gaer weir gwasgarawt allmyn. | |
| 8 | | gwnahawnt goruoled gwedy gwehyn. | 13.7 |
| 9 | | Achymot kymry agwyr dulyn. | 13.8 |
| 10 | | Gwydyl iwerdon mon aphrydyn. | 13.9 |
| 11 | | cornyw achludwys eu kynnwys genhyn. | 13.10 |
| 12 | | Atporyon uyd brython pan dyorfyn. | 13.11 |
| 13 | | Pell dygoganher amser dybydyn. | |
| 14 | | Teyrned abonhed eu gorescyn. | 13.12 |
| 15 | | gwyr gogled yg kynted yn eu kylchyn. | 13.13 |
| 16 | | ymperued eu racwed y discynnyn. | 13.14 |
| | | | |
| 17 | | Dysgogan Myrdin kyferueyd hyn. | 13.15 |
| 18 | | yn aber perydon meiryon mechteyrn. | |
| 19 | | Achyny bei vn reith lleith agwynyn. | 13.16 |
| 20 | | o vn ewyllis bryt yd ymwrthuynnyn. | 13.17 |
| 21 | | Meiryon eu tretheu dychynnullyn. | 13.18 |
| 22 | | Ygketoed kymry nat oed atelhyn. | 13.19 |
| 23 | | yssyd wr dylyedawc alefeir hyn. | |
| 24 | | ny dyffei atalei ygkeithiwet. | 13.20 |
| | | | |
| 25 | | Mab Meir mawr a eir pryt na thardet. | 13.21 |
| 26 | | rac pennaeth saesson ac eu hoffed. | |
| 27 | | Pell bwynt kychmyn ywrtheyrn gwyned. | 13.22 |
| 28 | | ef gyrhawt allmyn y alltuded. | 13.23 |
| 29 | | nys arhaedwy neb nys dioes dayar. | 13.24 |
| 30 | | ny wydynt py treiglynt ym pop aber. | |
| 31 | | pan prynassant danet trwy fflet called. | 13.25 |
| 32 | | gan hors ahegys oed yng eu ryssed. | 13.26 |
| 33 | | eu kynnyd bu ywrthym yn anuonhed. | 14.1 |
| 34 | | gwedy rin dilein keith ymynuer. | |
| 35 | | dechymyd meddaw mawr wirawt o ved. | 14.2 |
| 36 | | dechymyd aghen agheu llawer. | 14.3 |
| 37 | | decymyd anaeleu dagreu gwraged | 14.4 |
| 38 | | dychyfroy etgyllaeth pennaeth lletfer. | 14.5 |
| 39 | | dechymyd tristit byt aryher. | |
| 40 | | Pan uyd kechmyn danet an teyrned. | 14.6 |
| 41 | | Gwrthottit trindawt dyrnawt abwyller. | 14.7 |
| 42 | | ydilein gwlat vrython asaesson yn anhed. | 14.8 |
| 43 | | poet kynt eu reges yn alltuded. | 14.9 |
| 44 | | no mynet Kymry yn diffroed. | |
| | | | |
| 45 | | Mab Meir mawr aeir pryt nas terdyn. | 14.10 |
| 46 | | kymry rac goeir breyr ac vnbyn. | 14.11 |
| 47 | | kyneircheit kyneilweit vn reith cwynnyn. | 14.12 |
| 48 | | Vn gor vn gyghor vn eissor ynt. | 14.13 |
| 49 | | nyt oed yr mawred nas lleferynt. | |
| 50 | | namyn yr hebcor goeir nas kymodynt. | 14.14 |
| 51 | | Y dduw adewi ydymorchymynynt. | 14.15 |
| 52 | | talet gwrthodet flet y allmyn. | 14.16 |
| 53 | | gwnaent wy aneireu eisseu trefdyn. | |
| 54 | | kymry a saesson kyferuydyn | 14.17 |
| 55 | | yam lan ymtreulaw ac ymwrthryn. | 14.18 |
| 56 | | odiruawr vydinawr pan ymprofyn. | 14.19 |
| 57 | | Ac am allt lafnawr agawr agryn. | |
| 58 | | Ac am Gwy geir kyfyrgeir yam peurllyn. | 14.20 |
| 59 | | Alluman adaw agarw discyn. | 14.21 |
| 60 | | A mal balaon saesson syrthyn. | |
| 61 | | kymry kynyrcheit kyfun dullyn. | 14.22 |
| 62 | | blaen wrth von granwynyon kyfyng oedyn. | 14.23 |
| 63 | | meiryon yg werth eu geu yn eu creinhyn. | 14.24 |
| 64 | | Eu bydin ygwaetlin yn eu kylchyn. | 14.25 |
| 65 | | Ereill ar eu traet trwy goet kilhyn. | 14.26 |
| 66 | | Trwy uwrch ydinas ffoxas ffohyn. | |
| 67 | | ryfel heb dychwel y tir prydyn. | 15.1 |
| 68 | | Attor trwy law gyghor mal mor llithryn. | 15.2 |
| | | | |
| 69 | | Meiryon kaer geri difri cwynant. | 15.3 |
| 70 | | rei ydyffryn abryn nys dirwadant. | |
| 71 | | y aber perydon ny mat doethant. | 15.4 |
| 72 | | anaeleu tretheu dychynullant. | 15.5 |
| 73 | | naw vgein canhwr ydiscynnant. | 15.6 |
| 74 | | mawr watwar namyn petwar nyt atcorant. | |
| 75 | | dyhed yeu gwraged adywedant. | 15.7 |
| 76 | | eu crysseu yn llawn creu aorolchant. | 15.8 |
| 77 | | kymry kyneircheit eneit dichwant. | 15.9 |
| 78 | | gwyr deheu eu tretheu a amygant. | 15.10 |
| 79 | | llym llifeit llafnawr llwyr y lladant. | |
| 80 | | ny byd y vedyc mwyn or a wnaant. | 15.11 |
| 81 | | bydinoed katwaladyr kadyr y deuant. | 15.12 |
| 82 | | rydrychafwynt kymry kat a wnant. | 15.13 |
| 83 | | Lleith anoleith rydygyrchassant. | |
| 84 | | yg gorffen eu tretheu agheu awdant. | 15.14 |
| 85 | | ereill arosceill ryplanhassant. | 15.15 |
| 86 | | oes oesseu eu tretheu nys escorant. | |
| | | | |
| 87 | | yg koet ymaes ym bryn. | 15.16 |
| 88 | | canhwyll yn tywyll a gerd genhyn. | 15.17 |
| 89 | | kynan yn racwan ym pop discyn. | |
| 90 | | Saesson rac brython gwae agenyn. | 15.18 |
| 91 | | Katwaladyr ynbaladyr gan yunbyn. | 15.19 |
| 92 | | trwy synhwyr yn llwyr yn eu dichlyn. | 15.20 |
| 93 | | Pan syrthwynt eu clas dros eu herchwyn. | 15.21 |
| 94 | | Ygcustud achreu rud ar rud allmyn. | |
| 95 | | yg gorffen pop agreith anreith degyn. | 15.22 |
| 96 | | Seis arhynt hyt gaerwynt kynt pwy kynt techyn. | 15.23 |
| 97 | | gwyn eu byt wy gymry pan adrodynt. | 15.24 |
| 98 | | ryn gwarawt y trindawt or trallawt gynt. | 15.25 |
| 99 | | na chrynet dyfet na glywyssyg | 15.26 |
| 100 | | nys gwnaho molawt meiryon mechteyrn. | 16.1 |
| 101 | | na chynhoryon saesson keffyn ebryn. | |
| 102 | | nys gwnaho medut meddawt genhyn. | 16.2 |
| 103 | | heb talet odynget meint ageffyn. | 16.3 |
| 104 | | Oymdifeit veibon ac ereill ryn. | 16.4 |
| 105 | | trwy eiryawl dewi a seint prydeyn. | 16.5 |
| 106 | | hyt ffrwt arlego ffohawr allan. | |
| | | | |
| 107 | | Dysgogan awen dydaw ydyd. | 16.6 |
| 108 | | pan dyffo iwys y vn gwssyl. | 16.7 |
| 109 | | Vn cor vn gyghor alloegyr lloscit. | |
| 110 | | yr gobeith anneiraw ar yn prydaw luyd. | 16.8 |
| 111 | | Acherd aralluro affo beunyd. | 16.9 |
| 112 | | ny wyr kud ymda cwd a cwd vyd. | |
| 113 | | Dychyrchwynt gyfarth mal arth o vynyd. | 16.10 |
| 114 | | y talu gwynyeith gwaet eu henyd. | 16.11 |
| 115 | | Atvi peleitral dyfal dillyd. | 16.12 |
| 116 | | nyt arbettwy car corff ygilyd. | |
| 117 | | Atui pen gaflaw heb emennyd. | 16.13 |
| 118 | | Atui gwraged gwedw a meirch gweilyd. | 16.14 |
| 119 | | Atui obein vthyr rac ruthyr ketwyr. | 16.15 |
| 120 | | Alliaws llaw amhar kyn gwascar lluyd. | |
| 121 | | Kennadeu agheu dychyferwyd. | 16.16 |
| 122 | | pan safhwynt galaned wrth eu hennyd. | 16.17 |
| 123 | | Ef dialawr 'ytreth' ar gwerth beunyd. | 16.18 |
| 124 | | ar mynych gennadeu ar geu luyd. | 16.19 |
| 125 | | Dygorfu Kymry trwy kyfergyr. | |
| 126 | | yn gyweir gyteir gytson gytffyd. | 16.20 |
| | | | |
| 127 | | Dygorfu kymry y peri kat. | 16.21 |
| 128 | | A llwyth lliaws gwlat a gynnullant. | |
| 129 | | A lluman glan dewi a drychafant. | 16.22 |
| 130 | | y tywyssaw Gwydyl trwy lieingant. | 16.23 |
| 131 | | A gynhon dulyn genhyn y safant. | 16.24 |
| 132 | | pan dyffont yr gat nyt ymwadant. | |
| 133 | | gofynnant yr saesson py geissyssant. | 16.25 |
| 134 | | pwy meint eu dylyet or wlat a dalyant. | 16.26 |
| 135 | | cw mae eu herw pan seilyassant. | 17.1 |
| 136 | | cw mae eu kenedloed py vro pan doethant. | 17.2 |
| 137 | | yr amser gwrtheyrn genhyn y sathrant. | |
| 138 | | ny cheffir o wir rantir an karant. | 17.3 |
| 139 | | Neu vreint an seint pyr y saghyssant. | 17.4 |
| 140 | | neu reitheu dewi pyr y torrassant. | 17.5 |
| 141 | | ymgetwynt gymry pan ymwelant. | 17.6 |
| 142 | | nyt ahont allmyn or nen y safant. | |
| 143 | | hyt pan talhont seith weith gwerth digonsant. | 17.7 |
| 144 | | Ac agheu diheu yg werth eu cam. | 17.8 |
| 145 | | ef talhawr o anawr garmawn garant. | 17.9 |
| 146 | | y pedeir blyned ar petwar cant. | 17.10 |
| | | | |
| 147 | | Gwyr gwychyr gwallt hiryon ergyr dofyd. | |
| 148 | | o dihol saesson o iwerdon dybyd. | 17.11 |
| 149 | | Dybi o lego lyghes rewyd. | 17.12 |
| 150 | | rewinyawt y gat rwyccawt lluyd. | |
| 151 | | Dybi o alclut gwyr drut diweir | 17.13 |
| 152 | | y dihol o prydein virein luyd. | 17.14 |
| 153 | | Dybi o lydaw prydaw gyweithyd. | |
| 154 | | ketwyr y ar katueirch ny pheirch eu hennyd. | 17.15 |
| 155 | | Saesson o pop parth y gwarth ae deubyd. | 17.16 |
| 156 | | ry treghis eu hoes nys dioes eluyd. | 17.17 |
| 157 | | dyderpi agheu yr du gyweithyd. | 17.18 |
| 158 | | clefyt a dyllid ac angweryt. | |
| 159 | | Gwedy eur ac aryant a chanhwynyd. | 17.19 |
| 160 | | boet perth eu disserth ygwerth eu drycffyd. | 17.20 |
| 161 | | boet mor boet agor eu kussulwyr | 17.21 |
| 162 | | boet creu boet agheu eu kyweithyd. | 17.22 |
| 163 | | Kynan a chatwaladyr kadyr yn lluyd. | |
| 164 | | Etmyccawr hyt vrawt ffawt ae deubyd. | 17.23 |
| 165 | | Deu vnben degyn dwys eu kussyl. | 17.24 |
| 166 | | deu orsegyn Saesson o pleit dofyd. | 17.25 |
| 167 | | deu hael deu gedawl gwlat warthegyd. | 17.26 |
| 168 | | deu diarchar barawt vnffawt vn ffyd. | |
| 169 | | deu erchwynawc prydein mirein luyd. | 18.1 |
| 170 | | deu arth nys gwna gwarth kyfarth beunyd. | 18.2 |
| | | | |
| 171 | | Dysgogan derwydon meint a deruyd. | 18.3 |
| 172 | | o vynaw hyt lydaw yn eu llaw yt vyd. | 18.4 |
| 173 | | o dyuet hyt danet wy bieiuyd. | 18.5 |
| 174 | | o wawl hyt weryt hyt eu hebyr. | |
| 175 | | Llettawt eu pennaeth tros yr echwyd. | 18.6 |
| 176 | | Attor ar gynhon saesson ny byd. | 18.7 |
| 177 | | Atchwelwynt wydyl ar eu hennyd. | 18.8 |
| 178 | | rydrychafwynt gymry kadyr gyweithyd. | |
| 179 | | bydinoed am gwrwf a thwrwf milwyr. | 18.9 |
| 180 | | A theyrned dews rygedwys eu ffyd. | 18.10 |
| 181 | | iwis y pop llyghes tres a deruyd. | 18.11 |
| 182 | | A chymot kynan gan y gilyd. | 18.12 |
| 183 | | ny alwawr gynhon yn gynifwyr | |
| 184 | | namyn kechmyn katwaladyr ac gyfnewitwyr. | 18.13 |
| 185 | | Eil kymro llawen llafar a uyd. | 18.14 |
| 186 | | Am ynys gymwyeit heit a deruyd. | 18.15 |
| 187 | | pan safhwynt galaned wrth eu hennyd. | 18.16 |
| 188 | | hyt yn aber santwic swynedic vyd. | |
| 189 | | Allmyn ar gychwyn y alltudyd. | 18.17 |
| 190 | | ol wrth ol attor ar eu hennyd. | 18.18 |
| 191 | | Saesson wrth agor ar vor peunyd. | 18.19 |
| 192 | | kymry gwenerawl hyt vrawt goruyd. | |
| 193 | | Na cheisswynt lyfrawr nac agawr brydyd. | 18.20 |
| 194 | | Arymes yr ynys hon namyn hyn ny byd. | 18.21 |
| 195 | | Iolwn i ri a grewys nef ac eluyd. | 18.22 |
| 196 | | poet tywyssawc dewi yr kynifwyr. | 18.23 |
| 197 | | yn yr yg gelli kaer am duw yssyd. | |
| 198 | | ny threinc ny dieinc nyt ardispyd. | 18.24 |
| 199 | | ny wyw ny wellyc ny phlyc ny chryd. | 18.25 |